Ymatebi atebion y Gweinidog Addysg i'r pwyllgor deisebau

 

Dyma’r pwyntiau y casglais o’r sesiwn yma rhwng y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, a’r Pwyllgor deisebau.

 

Mae’r pwyntiau rydw i wedi’u casglu yn gronolegol drwy’r cyfarfod.

 

 

Mae’r Gweinidog yn ailadrodd yn gyson ei bod hi’n bwysig “dysgu hanes Cymru mewn cyd-destun hanes y byd, a bod angen dysgu pob agwedd o Hanes Cymru”. Mae’r Gweinidog yn nodi’r amcan rydym eisiau ei gyrraedd, ond nid yw’r Gweinidog yn gweithredu o gwbl yn y ffordd gywir er mwyn cyrraedd yr amcanion yma.

 

Fe godai’r  pwynt nad yw plant a phobl ifanc Cymru ddim ynn cael chwarae teg  gan fod  “dim digon o ddysgu plant am Genedl eu hunain”

Ymateb y Gweinidog i hyn oedd bod ”natur” y gwersi yn bwysig, a bod cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 yn rhoi’r “cyfle” i hanes Cymru gael ei ddysgu yn ein hysgolion. Yn fy marn i, tydi’r gair “cyfle” ddim yn ddigon cryf pan rydym yn trafod hanes Cymru yn ein hysgolion. Tydi’r gair ddim yn rhoi cysur i mi o gwbl, oherwydd gallai “cyfle iddynt ddysgu” olygu fod yna gyfle iddynt beidio dysgu am hanes Cymru. Mae angen bod yn gadarn ar y mater yma.

 

Fe nododd y Gweinidog fod Estyn wedi nodi fod dulliau dysgu'r Dynoliaethau mewn ysgolion wedi cael clod ganddynt, ac oherwydd bod hanes yn un o'r dynoliaethau, ei fod yn llwyddiant hefyd. Os edrychwn ar bynciau dynoliaethau, rydym yn gweld ei fod yn faes mawr iawn a gall hanes fod yn ffracsiwn bach iawn o hynny. Hefyd mae angen nodi y gallai hanes gael ei ddysgu’n dda, ond hanes beth yw’r cwestiwn, dydyn ddim yn trafod yn unig yr hanes sy’n cael ei ddysgu ond beth yw cynnwys y pwnc hefyd. Felly mae angen craffu’n ddyfnach ar beth yw cynnwys yr hanes sy’n cael ei ddysgu.

Daw’r ffaith yma’n amlwg wedyn gan nodi fod yna “ganmoliaeth” o'r dynoliaethau, yn cynnwys hanes, ond fod cynnwys y pwnc ddim yn dysgu hanes Cymru.

Ymateb y Gweinidog i hyn oedd bod y cwricwlwm newydd yn ehangu’r “cyfleodd” i ddysgu hanes Cymru eto yn ein hysgolion a bod yna bellach “bwyslais mawr” ar ddysgu hanes Cymru. Fel y nodir uchod, tydi “Pwyslais mawr” a “Chyfle” ddim yn gysur o gwbl i mi pan mae’n dod i ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion!

Mae’r Gweinidog wedyn yn nodi fod angen cael “dimensiwn Cymraeg” ar hyd y cwricwlwm, nid ar hanes yn unig. Tydi hyn hefyd ddim yn unioni'r diffygdysgu hanes Cymru yn ein hysgolion, osgoi'r cwestiwn ydi hyn i raddau. Mae pwyslais y ddeiseb hon ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion, rhaid cael hynny yn glir a chadarn, a pheidio credu fod rhoi dipyn o ddimensiwn Cymreig ar hyd y cwricwlwm yn mynd i osgoi’r ffaith fod Hanes Cymru angen ei ddysgu yn ein hysgolion.

 

Mae’r pwynt yn codi fod ysgolion yn cael eu cadw yn y tywyllwch gyda’r ffordd mae angen strwythuro a dysgu hanes, gan golli cyfle  i ddefnyddio ffurf gronolegol er mwyn cael gwersi hanes sydd yn drefnus a’n cyfleu’r wybodaeth gywir ynddynt.

Honni mae’r Gweinidog y gallai  gwneud hynny amharu ar yr hanes lleol sy’n cael ei ddysgu yn yr Ysgolion, a bod yna broblem yn codi o hyn wedyn oherwydd bod cymaint o “bethau i’w trafod gyda hanes Cymru, mae’n anodd rhoi popeth mewn yn y cwricwlwm”.

Daw pwynt gan aelod o’r pwyllgor wedyn yn nodi’r syniad o greu cwricwlwm fydd yn dysgu prif bwyntiau hanes cenedlaethol Cymru, ac i sicrhau ei fod yn cynnwys lle i ddysgu hanes lleol eu hardal a'u cymunedau i bobl ifanc. Siomedig oedd gweld y Gweinidog yn nodi unwaith eto “fod yna ddim yng nghyfnod allweddol 2 a 3 yn rhwystro hyn rhag digwydd” - mi wnaeth hyn fy siomi’n fwy na chlywed y gair “cyfle” a “phwyslais” oherwydd ei fod o’n dangos yn glir nad oes yna ddim byd yn sicrhau fod hanes Cymru yn cael ei ddysgu ychwaith, fydd yn gadael ni yn y sefyllfa bresennol yn sicr.

 

Daw’r pwynt wedyn fod o’n bwysig dysgu hanes Cymru yn ei gyfanrwydd oherwydd bod cymaint o wybodaeth yn cysylltu Cymru at ei gilydd, a bod amryw o gyfnodau gwahanol wedi cael effaith ar ei gilydd ar hyd Cymru i’n rhoi ni yn ein sefyllfa bresennol. Ymateb y Gweinidog i hyn oedd dweud “gallai’r lefel A newydd gynnwys elfennau ac agweddau o hyn”.  Amlwg wrth glywed y geiriau “gallai” ac “cynnwys agweddau” fod y Gweinidog ddim yn dangos brwdfrydedd i bobl Cymru cael dysgu am hanes pendant ein hunain a bod yna ddim pwyslais ganddi ar sicrhau fod hyn yn ddigwydd.

 

Cododd y pryder fod yr Ysgolion sy’n dysgu am hanes Cymru yn tueddu fod yn rhai Cymraeg, felly mae angen creu’r cwricwlwm i bawb ddysgu hanes Cymru a bod y pwyslais a’r cyfle i ddysgu hanes Cymru ddim yn dod gan ysgolion Cymraeg yn unig.

Ymateb y Gweinidog i hyn oedd ailadrodd fod y cwricwlwm newydd yn rhoi’r cyfle i ddysgu hanes Cymru i ni fel Gwlad, ac fe nododd nad oedd o’n golygu byddai ansawdd gwersi hanes yn amrywio yn ôl cyfrwng iaith yr ysgolion. Cododd bwynt arall wedyn gan fynd oddi ar y pwynt am hanes Cymru a dechrau siarad am y ffordd oedd yr Iaith Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion “We can't let the Language be a preserve of a certain type of school”. Er fod y mater yma’n bwysig, mae’r Gweinidog yn plethu dwy broblem gyda’i gilydd yma, sef dysgu hanes Cymru a dysgu’r Iaith Gymraeg mewn ysgolion, mater sydd angen ei ddatrys ar wahân.

 

Pan ddaw pwynt arall o sylwadau Dr Elin Jones, fod dysgu am Hanes a diwylliant Cymru yn cael ei gyfyngu i wersi Cymraeg, rydym yn cael yr un ymateb gan y Gweinidog, sef bod y cwricwlwm newydd yn rhoi’r “cyfle” i ddysgu hanes Cymru, sydd yn siomedig ac yn cyfleu diffyg brwdfrydedd tuag at hanes Cymru, ac yn ailadrodd eto'r geiriau gwag fod yna “gyfle” i ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion.

 

 

Casgliad

 

Mae llawer iawn o bryderon yn codi o'r cyfarfod : -

 

Mae defnydd o’r gair “cyfle” yn bryder, oherwydd ei fod yn golygu fod yna bosibiliad na fydd disgyblion yn astudio Hanes Cymru, ac y byddai rhai plant yn colli’r hawl i ddysgu am eu gwlad. Gwarth yw dweud mai siawns yn unig sydd gan blant a phobl ifanc i ddysgu hanes eu Cenedl eu hunain, a bod yna siawns na fydden nhw'n cael addysg yn yr Ysgol am hanes eu gwlad.

 

Mae angen nodi nad yw creu “dimensiwn” Cymreig ar draws y pynciau yn ddigon pan mae’n dod i ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion, a bod angen pwysleisio fod addysgu Hanes Cymru yn bwnc sydd angen bod yn fanwl ag o, gan nodi fod angen ystyried yn ddwfn, yn hytrach na’i glymu gyda’r syniad o ddimensiwn Cymreig yn unig.

 

Gallai wneud i’r athrawon orfod penderfynu ar beth maent yn dysgu fod yn boen iddynt hwythau hefyd, a bod yna anghysondeb yn yr hyn sy’n cael ei ddysgu i’r rhai sydd mewn ysgolion. Mae angen sicrwydd a threfn bendant pan mae’n dod i drafod y cyfnodau gwahanol yn hanes ein gwlad. Mae’n bwysig penderfynu’r cynnwys sy’n cael ei ddysgu â’r strwythur mae’n cael ei ddysgu ynddo hefyd.

 

 

 

 

Argymhellion

 

Mae angen creu sicrwydd drwy greu cwricwlwm pendant sy’n dysgu'r prif gyfnodau yn hanes Cymru, a hefyd plethu Cymru i’r cyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a byd eang. O fewn dysgu hanes Cymru mae angen creu gofod lle mae pobl ifanc a phlant yn cael gwybodaeth am eu cymunedau a’u hardaloedd hefyd. Mae angen y persbectif Gymraeg fod yn gryf drwy hyn i gyd gan nodi’r effaith mae wedi’i gael ar y Genedl, ac ar bobl Cymru. Gallai hanes gwledydd eraill y y byd gael ei ddatblygu yn ogystal wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

 

Mae angen cael trefn gronolegol a phendant ar beth sydd angen ei ddysgu yn Genedlaethol, a gallai’r athrawon dal gael rhyddid ynghylch beth sydd angen ei ddysgu yn lleol ynglŷn â chynefin y disgyblion.